13431. I Bob Un Sydd Ffyddlon

1 I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.

Byrdwn:
I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.

2 Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd. [Byrdwn]

3 Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i’n herbyn
A’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o’n tu! [Byrdwn]

Text Information
First Line: I bob un sydd ffyddlon
Title: I Bob Un Sydd Ffyddlon
English Title: Onward, Christian soldiers
Author: Sabine Baring-Gould
Paraphraser: Henry Lloyd (Ap Hefin) 1870-1946
Refrain First Line: I bob un sydd ffyddlon
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: [I bob un sydd ffyddlon]
Composer: Caradog Roberts, 1897-1935
Key: A♭ Major
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us