Cân a Mawl #160a
Display Title: Mae 'r faner fawr yn mlaen First Line: Mae 'r faner fawr yn mlaen Tune Title: RHOSYMEDRE Author: Pantycelyn Date: 1918
Cân a Mawl #160a
1 Mae’r faner fawr ymlaen,
Efengyl nef yw hon;
Mae uffern lawn o dân
Yn crynu ’nawr o’r bron;
Hi gwymp, hi gwymp, er maint ei grym;
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
2 Na lwfrhaed ein ffydd;
Mae’n ffydd fel colofn dân
A blannodd Brenin nef
I’n harwain yn y blaen;
Mi wela’r wlad, mi gâ’i mwynhau,
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
3 O! ffynnon fawr o hedd,
O! anchwiliadwy fôr,
Sy’n cynnwys ynddo’i hun
Ryw annherfynol stôr;
Ti biau’r clôd; wel, cymer ef,
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.
Source: The Cyber Hymnal #13433
First Line: | Mae'r faner fawr yn mlaen |
Author: | William Williams |
Language: | Welsh |
Copyright: | Public Domain |