1 Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na’i berlau mân: Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân.
Cytgan: Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na’r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu— Canu’r dydd a chanu’r nos.
2 Pe dymunwn olud bydol, Hedyn buan ganddo sydd; Golud calon lân, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. [Cytgan]
3 Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i’r nef ar edyn cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân. [Cytgan]Source: The Cyber Hymnal #13416