| 13430 | The Cyber Hymnal#13431 | 13432 |
| Text: | I Bob Un Sydd Ffyddlon |
| Author: | Sabine Baring-Gould |
| Paraphraser: | Henry Lloyd (Ap Hefin) 1870-1946 |
| Tune: | [I bob un sydd ffyddlon] |
| Composer: | Caradog Roberts, 1897-1935 |
| Media: | MIDI file |
1 I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.
Byrdwn:
I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.
2 Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd. [Byrdwn]
3 Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i’n herbyn
A’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o’n tu! [Byrdwn]
| Text Information | |
|---|---|
| First Line: | I bob un sydd ffyddlon |
| Title: | I Bob Un Sydd Ffyddlon |
| English Title: | Onward, Christian soldiers |
| Author: | Sabine Baring-Gould |
| Paraphraser: | Henry Lloyd (Ap Hefin) 1870-1946 |
| Refrain First Line: | I bob un sydd ffyddlon |
| Language: | Welsh |
| Copyright: | Public Domain |
| Tune Information | |
|---|---|
| Name: | [I bob un sydd ffyddlon] |
| Composer: | Caradog Roberts, 1897-1935 |
| Key: | A♭ Major |
| Copyright: | Public Domain |
| Media | |
|---|---|
| Adobe Acrobat image: | |
| MIDI file: | |
| Noteworthy Composer score: | |