| 13434 | The Cyber Hymnal#13435 | 13436 |
| Text: | O Flaen Y Fainc Rhaid Sefyll |
| Author: | William Williams |
| Tune: | BRYNIAU CASSIA |
| Media: | MIDI file |
1 O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ië, sefyll cyn b’o hir;
Nid oes a’m nertha yno
Ond Dy gyfiawnder pur:
Myfi anturia’n ëon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân,
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.
Glân, glân,
Ond Dy gyfiawnder glân;
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.
2 Ni fuasai genyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A’r t’w’llwch dudew byth,
Oni buasai i’r Hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari,
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.
Fi! fi!
I gofio am danaf fi.
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.
| Text Information | |
|---|---|
| First Line: | O flaen y fainc rhaid sefyll |
| Title: | O Flaen Y Fainc Rhaid Sefyll |
| Author: | William Williams |
| Meter: | 76.76 D |
| Language: | Welsh |
| Source: | Old Welsh Tune |
| Copyright: | Public Domain |
| Tune Information | |
|---|---|
| Name: | BRYNIAU CASSIA |
| Meter: | 76.76 D |
| Key: | g minor |
| Source: | Old Welsh Tune |
| Copyright: | Public Domain |
| Media | |
|---|---|
| Adobe Acrobat image: | |
| MIDI file: | |
| Noteworthy Composer score: | |