| 13442 | The Cyber Hymnal#13443 | 13444 |
| Text: | Yn Y Dyfroedd Mawr A'r Tonnau |
| Author: | Dafydd William, 1720-1794 |
| Tune: | [Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau] |
| Composer: | Thomas John Williams |
| Media: | MIDI file |
1 Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
2 O! anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw’r gras;
Digyfnewid yw’r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f’angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau’r
Oen y cawn i fyw.
| Text Information | |
|---|---|
| First Line: | Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau |
| Title: | Yn Y Dyfroedd Mawr A'r Tonnau |
| Author: | Dafydd William, 1720-1794 |
| Language: | Welsh |
| Copyright: | Public Domain |
| Tune Information | |
|---|---|
| Name: | [Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau] |
| Composer: | Thomas John Williams |
| Meter: | 87.87 D |
| Key: | f minor |
| Copyright: | Public Domain |
| Media | |
|---|---|
| Adobe Acrobat image: | |
| MIDI file: | |
| Noteworthy Composer score: | |