
Author: William Williams, 1717-1791 Meter: 8.7.8.7.4.7 Appears in 7 hymnals First Line: Cymer, Iesu, fi fel’ rydwyf Lyrics: 1 Cymer, Iesu, fi fel’ rydwyf,
Fyth ni allaf fod yn well;
Dallu di am gwna yn agos,
Fewyllys i yw mynd ymhell
Yn, dy glwyfau,
yn dy glwyfau,
Bydda’i’n unig fyth yn iach,
Bydda’i’n unig fyth yn iach.
2 Mi ddiffygiais deithior crastir
Dyrys anial wrthyf f’hun
Ac mi fethais â choncwerio
O’m gelynion lleiaf un
Mae dy enw,
Mae dy enw,
Mae dy enw
’N able i beri i’r cryfaf ffoi,
’N able i beri i’r cryfaf ffoi.
3 Gwaed y Groes sy’n codi i fyny,
’Reiddil yn goncwerwr mawr:
Gwaed dy Groes sydd yn darostwng,
Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
Gad im deimlo,
Gad im deilo,
Gad im deimlo
Awel O Galfaria fryn,
Awel O Galfaria fryn.
4 Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed;
Ti gest angeu, Ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed.
Pen Calfaria,
Pen Calfaria,
Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth om cof,
Nac aed hwnw byth om cof. Used With Tune: BRYN CALFARIA
Cymer, Iesu, Fi Fel' Rydwyf